
Am y Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng NghymruDaeth y Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant i rym ym mis Chwefror 2007 ac mae’n cael ei redeg gan Nestor Primecare Services Ltd, y Corff Cymeradwyo, o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y ffi cymeradwyo, sy’n daladwy wrth wneud cais, yw £99 ar hyn o bryd ac mae’n cynnwys y gost o Ddatganiad Manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol (gwiriad CRB), o gynnal y wefan, o linell gymorth ffôn, o broses apelio a’r holl gostau gweinyddol a TAW. Mae’r cynllun yn wirfoddol ac mae yn gymwys i Ofal Plant a ddarperir yng Nghymru yn unig. Er mwyn cael ei gymeradwyo o dan y cynllun hwn mae’n rhaid i’r gofalwr fodloni’r meini prawf canlynol wrth wneud cais neu wrth adnewyddu cymeradwyaeth.
Mae'r gymeradwyaeth yn ddilys am ddeuddeng mis. |
|||
|
|||