Welsh Assembly Government - Childcare Approval Scheme
Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme Home About Childcare Approval Scheme What does the Scheme do for me? Why should my nanny be approved? What is a Criminal Records Bureau (CRB) check? Frequently Asked Questions Downloads Links Contact Us Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme

What does the Scheme do for me?

Beth mae'r cynllun yn ei wneud

  1. Mae'n gwirio bod gan yr ymgeisydd gymhwyster mewn gofal plant.
  2. Mae'n gwirio bod yr ymgeisydd wedi dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf priodol o fewn tair blynedd i ddyddiad y cais.
  3. Mae'n cynnal Datganiad Manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol (gwiriad CRB) gan gynnwys gwiriad rhestr POCA (POCA - Deddf Amddiffyn Plant). Bydd y Corff Cymeradwyo Gofal Plant wedyn yn asesu a yw'r gwiriad CRB neu gofnodion ar restr POCA yn cynnwys gwybodaeth fyddai'n golygu bod ymgeisydd yn anaddas i weithio gyda phlant.
  4. Drwy ddefnyddio gofalwr cymeradwy, mae'n bosibl y bydd cyflogwr yn gallu cael mynediad at gefnogaeth ariannol drwy elfen gofal plant y credyd treth gwaith neu drwy ofal gwaith a gefnogir gan gyflogwr.

Yr hyn nad yw'r cynllun yn ei wneud.

  1. Nid yw'n gwirio a yw'r gofalwyr plant yn gymwys i weithio yn y DU.
  2. Nid yw'n egluro'r gyda pha grwp oedran y maen nhw'n addas i weithio.
  3. Nid yw'n gwarantu bod gan rieni sy'n defnyddio gofalwr plant cymeradwy hawl i gefnogaeth ariannol naill ai trwy'r Credyd Treth Gwaith a gofal gwaith a gefnogir gan y cyflogwr.
  4. Nid yw'n dileu cyfrifoldeb y rhiant i wneud yn siwr bod gofalwyr plant yn addas yn unigol am edrych ar ôl eu plant.

Sut rwy'n darganfod mwy?

Y llinell gymorth 0844 736 0260 (codir am alwadau ar gyfradd leol neu'n uwch o ffôn symudol neu ffôn gyhoeddus) a gwefan www.childcareapprovalschemewales.co.uk

I warchod preifatrwydd, trafodir manylion ceisiadau unigol gydag ymgeiswyr yn unig.

Am faint bydd y gymeradwyaeth yn ddilys?

Bydd y gymeradwyaeth yn ddilys am un flwyddyn

Faint fydd yn costio?

Bydd ffi o £99 yn daladwy. Bydd hwn yn cynnwys cost y gwiriad CRB a TAW.

Fydd gofal plant yn gymwys i help o fewn elfen gofal plant y Credydau Treth Gwaith?

Mae gofal plant a ddarperir gan ofalwr cymeradwy o dan delerau'r cynllun hwn, sy'n cyflenwi gofal yng nghartref un o'r plant y mae'n gofalu amdano, yn ofal cymwys at bwrpasau cyfrifo cymhwyster ar gyfer credydau treth gwaith ac am fuddion treth a chyfraniadau Yswiriant gwladol o ddefnyddio talebau gofal plant a gefnogir gan gyflogwr.

Ni fydd gofal plant yn ofal cymeradwy ar gyfer elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith neu drwy dreth ac arbedion Yswiriant Gwladol ar ofal gwaith a gefnogir gan gyflogwr neu dalebau gofal gwaith os darperir y gofal hwnnw gan berthynas i blentyn sy'n gofalu am y plentyn hwnnw yng nghartref y plentyn hyd yn oed os yw'r perthynas wedi'i gofrestru neu wedi'i gymeradwyo.

Am ragor o gyngor ar y Credyd Treth Gwaith cysylltwch â Llinell Gymorth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0845 300 3900 (www.hmrc.gov.uk).

A all cyflogwyr wirio a yw gofalwr wedi'i gymeradwyo?

Cyn cynnig cyflogaeth neu geisio am gefnogaeth ariannol efallai bydd cyflogwr am wirio bod y gofalwr wedi'i gymeradwyo ar hyn o bryd. Gallan nhw wneud hyn drwy wefan ryngweithiol. Bydd angen yr enw a'r rhif unigryw a ddangosir ar y llythyr cymeradwyo ynghyd â rhif dynodi'r CRB. Dim ond y gofalwr a'r Corff Cymeradwyo sy'n gwybod y wybodaeth.

Yr unig wybodaeth a roddir yw a yw'r gofalwr wedi'i gymeradwyo neu beidio.

Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme © Crown Copyright                             Site Map | Disclaimer | Privacy | Linking to DfES | Accessibility Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme