Welsh Assembly Government - Childcare Approval Scheme
Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme Home About Childcare Approval Scheme What does the Scheme do for me? Why should my nanny be approved? What is a Criminal Records Bureau (CRB) check? Frequently Asked Questions Downloads Links Contact Us Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme

Beth yw Gwiriad Biwro Cofnodion Troseddol (CRB)?

Fel rhan o'r broses gymeradwyo mae'n ofynnol bod ymgeiswyr yn gwneud cais am Ddatgeliad Manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol (gwiriad CRB). Mae gwiriad CRB yn ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a ddelir gan yr heddlu a chan adrannau'r llywodraeth a gall cyflogwyr a chyrff gwirfoddol ei defnyddio i wneud gwell penderfyniadau recriwtio. Darperir datganiadau gan y Biwro Cofnodion Troseddol (CRB), un o asiantaethau gweithredol y Swyddfa Gartref.

Mae gwiriad CRB yn angenrheidiol i'r rheiny fydd yn gofalu'n rheolaidd am hyfforddi, goruchwylio neu a fydd yn gyfrifol ar eu pennau eu hunain am blant neu am oedolion bregus ac mae'n cynnwys manylion pob collfarn a gofnodwyd gan gynnwys collfarnau sydd wedi darfod, a manylion unrhyw rybuddion neu geryddon. Mae hefyd yn golygu lefel fanylach o wirio gyda chofnodion y llu lleol yr heddlu yn ogystal â gwiriadau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a rhestrau adrannau'r llywodraeth o'r rheiny a waherddir yn gyfreithiol rhag gweithio gyda phlant.

Ymgeiswyr sydd wedi byw tramor

Bydd yr arweiniad hwn yn berthnasol os ydych chi wedi byw mewn gwlad arall ar wahân i Brydain Fawr yn y cyfnod o 5 mlynedd cyn i chi wneud eich cais. Mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i Ogledd Iwerddon gan nad yw'r Biwro Cofnodion Troseddol yn ymdrin ag ef.

Os ydych chi wedi byw'n barhaus am 6 mis neu ragor mewn gwlad, ar wahân i Brydain Fawr, yn y 5 mlynedd cyn i chi wneud cais, mae'n rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o wiriad troseddol yn ymdrin â'r holl gyfnod y buoch chi'n byw yn y wlad honno, o ffynhonnell swyddogol y gallwn ni ei gwirio.

Os nad yw'r wybodaeth y mae ei hangen arnom ni, neu os nad ydym yn fodlon fod y dystiolaeth yn ddilys, yn gyfredol, yn gyflawn (hynny yw ei bod yn ymdrin â phob gwlad yr ydych wedi byw ynddi am fwy na 6 mis, ac eithrio Prydain Fawr, yn y 5 mlynedd cyn i chi wneud cais), yn rhestru unrhyw droseddau ar eich cofnod ac yn dod o ffynhonnell swyddogol y gellir ei dilysu, yna ni fyddwn ni'n gallu cymeradwyo eich cais.

Byddwn ni'n derbyn copïau gwreiddiol o unrhyw gofnodion neu ddogfennau ac mae'n rhaid iddynt, ble bo'r angen, gael eu cyfieithu gan asiantaeth gyfieithu achrededig, gan lysgenhadaeth neu gan Uchel Gomisiwn.

Mae hyn yn wir i ddinasyddion Prydeinig ac i wladolion tramor.

Os nad ydych chi'n siwr ble i gael y wybodaeth hon dylech chi gysylltu â llysgenhadaeth neu ag uwch gomisiwn y wlad am gyngor.

Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme © Crown Copyright                             Site Map | Disclaimer | Privacy | Linking to DfES | Accessibility Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme