Welsh Assembly Government - Childcare Approval Scheme
Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme Home About Childcare Approval Scheme What does the Scheme do for me? Why should my nanny be approved? What is a Criminal Records Bureau (CRB) check? Application Renewal process Frequently Asked Questions Downloads Links Contact Us Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme

Frequently Asked Questions

Gwneud Cais am Gymeradwyaeth
Cyflogi gofalwr plant cymeradwy
Iechyd, Diogelwch ac Amddiffyniad
Cefnogaeth Ariannol

Gwneud Cais am Gymeradwyaeth

[Back to top]

C. Os wyf yn gofalu am blentyn neu am blant yn un o’u cartrefi os rhaid imi fod wedi cael fy nghymeradwyo?

A. Nac oes, cynllun gwirfoddol yw hwn ond bydd yn eich galluogi i brofi i gyflogwyr eich bod wedi ateb y meini prawf a bydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r cymorth ariannol sydd ar gael os ydyn nhw’n gymwys, a ddylai olygu eich bod yn fwy cyflogadwy.

C. Faint fydd yn costio i gael fy nghymeradwyo?

A. £99 fydd y ffi cymeradwyo am geisiadau a gyflwynwyd o 1 Chwefror 2007 (bydd hyn yn cynnwys TAW ac ni ellir ei ad-dalu). Mae hyn yn cynnwys cost gweinyddu a Datganiad Manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol (Gwiriad CRB) Mae’r ffi’n daladwy’n flynyddol wrth i’r gymeradwyaeth gael ei hadnewyddu. Mae cymeradwyaeth yn para am 12 mis felly bydd rhaid i chi wneud cais bob blwyddyn.

C. Rwyf yn gweithio fel gofalwr plant yn yr Alban/Lloegr, a allaf i wneud cais i gael fy nghymeradwyo?

A. Mae Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru yn gymwys i Gymru yn unig er os ydych chi’n byw yn yr Alban neu yn Lloegr ac yn gofalu am blant gallwch chi wneud cais i ddod yn Ofalwr Plant Cymeradwy.

C. Pam nad ydym ni’n derbyn hygludedd gwiriadau CRB?

A. Nid yw Nestor, yn unol â pholisi’r cwmni o dan gyngor ac arweiniad gan y CRB, yn derbyn hygludedd oherwydd bod peth gwybodaeth yn cael ei chyflenwi i’r Corff sy’n gofrestredig gyda’r CRB yn unig. Nid oes gan yr ymgeisydd fynediad ato ac felly pan eir â Thystysgrif gwirio CRB i gorff arall nid yw’r wybodaeth ychwanegol hon yn dilyn.

C. Beth all rhywun ei wneud os gwrthodir ei gymeradwyo?

A. Yn y lle cyntaf gall gofalwyr plant ofyn i’r Corff Cymeradwyo ailystyried ei benderfyniad. Os nad yw’r gofalwr plant yn hapus ar ôl y broses apelio fewnol hon gyda’r penderfyniad gall wneud apêl i’r Tribiwnlys Safonau Gofal.

Mae’r Tribiwnlys Safonau Gofal yn gorff annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999. Mae rhagor o wybodaeth am y tribiwnlys ar gael ar y wefan - www.carestandardstribunal.gov.uk

Cyflogi gofalwr plant cymeradwy

[Back to top]

C. Sut byddaf i’n gallu darganfod a yw gofalwr plant wedi’i gymeradwyo?

A. Rhoddir Llythyr cymeradwyo i bob gofalwr plant cymeradwy gyda’i enw, cyfnod y dilysrwydd a rhif adnabod unigryw arno. Gyda’r wybodaeth hon, a dynodwr unigryw CRB y gofalwr plant fydd ar y llythyr, bydd y cyflogwr yn gallu darganfod a yw’r gofalwr plant wedi’i gymeradwyo neu beidio drwy’r wefan ryngweithiol.

 

Iechyd, Diogelwch ac Amddiffyniad

[Back to top]

C. Pa amddiffyniad fydd gan ofalwr plant cymeradwy sy'n gweithio yng nghartref rhiant os yw'r cartref yn beryglus i naill ai'r plant neu i'r gofalwr plant?

A. Bydd nodi unrhyw risgiau'n fater i'r gofalwr plant ac i'r rhieni.

C. Beth bydd y corff cymeradwyo yn ei wneud os rhoddir gwybod iddo fod gofalwr plant cymeradwy wedi niweidio plentyn?

A. Cynghori'r galwr i roi gwybod i'r Awdurdod priodol. Cymryd manylion y gofalwr plant a'i gyfeiriad a throsglwyddo'r wybodaeth i'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol. Os rhoddir gwybod iddo fod awdurdod priodol yn ymchwilio i'r cyhuddiadau, gellir tynnu cymeradwyaeth yn ôl. Pe bai i'r ymchwiliad eu clirio o wneud drwg gall y gofalwr plant wneud cais eto i gael cymeradwyaeth.

Cefnogaeth Ariannol

[Back to top]

C. Beth am bobl sy'n gofalu am blant y maen nhw'n perthyn iddynt? Fydd rhieni plant yn gallu hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith?

A. Ni fydd gofal plant yn ofal cymeradwy ar gyfer elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith neu drwy dreth ac arbedion Yswiriant Gwladol ar ofal gwaith a gefnogir gan gyflogwr neu dalebau gofal gwaith os darperir y gofal hwnnw gan berthynas i blentyn sy'n gofalu am y plentyn hwnnw yng nghartref y plentyn hyd yn oed os yw'r perthynas wedi'i gofrestru neu wedi'i gymeradwyo.

Am ragor o gyngor ar y Credyd Treth Gwaith cysylltwch â Llinell Gymorth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0845 300 3900. www.hmrc.gov.uk

C. Oes rhaid i mi gael fy nghymeradwyo os caf fy nhalu mewn talebau gofal plant?

A. Nac oes, ond ni fydd eich cyflogwr yn elwa ar arbedion treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol os nad ydych chi wedi'ch cofrestru neu wedi'ch cymeradwyo. Am wybodaeth am dreth ac Yswiriant Gwladol ewch i www.hmrc.gov.uk/childcare.

Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme © Crown Copyright                             Site Map | Disclaimer | Privacy | Linking to DfES | Accessibility Childcare Approval SchemeChildcare Approval Scheme