
Proses Adnewyddu caisGan fod y broses adnewyddu yn debygol o gymryd mwy na 4 – 6 wythnos, rydym yn ysgrifennu at ofalyddion cymeradwy er mwyn rhoi tua 3 mis o rybudd o flaen llaw i ailymgeisio. Er mwyn i rieni gadw eu hawl barhaus i gredydau treth /talebau a gefnogir gan gyflogwyr, mae'n angenrheidiol i'w nani neu ofalydd barhau i fod yn gymeradwy neu'n gofrestredig. Nid yw llawer o ofalyddion yn gwneud cais am adnewyddu tan yn agos i’r dyddiad pan fydd eu cymeradwyaeth gyfredol yn dod i ben, heb unrhyw obaith realistig o orffen y broses mewn pryd. Diben yr hysbysiad hwn yw tynnu sylw pobl at faint o amser y gall ei gymryd i adnewyddu a'u cynghori i wneud cais ar unwaith ar ôl iddynt gael eu hatgoffa. Bydd y rhai sy’n dilyn y cyngor hwn yn fwy tebygol o sicrhau y bydd yr adnewyddiad yn dechrau’n ddifwlch o'r dyddiad pan fydd yr hen gymeradwyaeth yn dod i ben. |
|||
|
|||